The dynamic quintet’s debut album, Bling, has everything you could want from a record — stunning use of instrumentation, gorgeously crafted songs, sprightly foot-tappers, verve and raw excitement.The Belfast Telegraph
Band gwerin newydd sydd wedi anadlu bywyd ffres i ganu’r Cymry gynt. Pump o aelodau sydd i’r band, yn medru canu a chwarae ag egni dihafal a gyrru traed y gynulleidfa i guro hefyd.Cewch glywed yr hen ffefrynnau i gyd, y tonau dawns fu’n ddifyrrwch i’r oes o’r blaen, ac hefyd ganeuon swynol fydd yn eich cyfareddu’n lân.
Pobl ifanc yn eu harddegau a’u hugeiniau yw aelodau Calan. Maent yn dod o wahanol rannau o’r wlad – Penrhyn Llyn, Abertawe, Bryn Mawr, Casnewydd, a Bangor. Cyfarfu pedwar ohonynt am y tro cyntaf yn Sweden, a hwythau yn mynychu ysgol haf Ethno o dan nawdd Trac.
Patrick Rimes (Ffidil, pibau, a chwisl) Yn bencampwr ffidil y gwledydd Celtaidd ddwywaith, yn feistr ar sawl offeryn, ac yn denu caredigion i'r ffidil bob man lle mae’n mynd.
Bethan Williams-Jones (Acordion, piano, llais, a dawnsio unigol). Cafodd un o’r enwebiadau prin ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2007.
Llinos Eleri Jones (Telyn). Dysgodd hi’i chrefft gan delynorion traddodiadol yng Nghymru.
Angharad Sian Jenkins - Yn denu’r dorf y tu allan i faes canu gwerin. Mae’r bandiau roc a’r canwyr-gyfansoddwyr yn awyddus i gael ei gwasanaeth hefyd. Ymhlith y gwledydd a deithiodd yn ddiweddar mae Iwerddon, yr Iseldiroedd, a Llydaw.
Chris ab Alun - Dewin y tonau, yn gweu curiad y canu traddodiadol gyda sigl y bandiau mawr, yn helpu i greu swn mor sionc.