Calan Wolfe Tones Calan Wolfe Tones

Gwybodaeth am y Daith

Tocynnau ar gyfer yr holl ddigwyddiadau ar gael o’n siop

Calan

Band gwerin gwefreiddiol sydd wedi ennill calonnau Cymru gyfan. Dyma nhw ar fin swyno’r dorf ym mhedwar ban byd!

25 ain Medi - Bar Callaghans, Caerdydd.

Gwestai Arbennig: Brigyn and Gwyneth Glyn

10 munud o gerdded o’r canolfannau siopa, taith hanner awr o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Man moethus gyda steil yw Bar Callaghans

Does dim lle gwell i fwynhau noson gerddorol ddiwrnod y gêm fawr. Gallech chi fod wrth y par yn cwpla peint o Guiness un funud, ac yn eich sedd yn y Stadiwm y funud nesaf!

Sut i gael hyd i'r fan.

Tacsi
Cyrraedd y Gwesty o Orsaf Ganolog Caerdydd - mae tacsis rif y gwlith i’w cael o’r tu allan i Orsaf Ganolog Caerdydd. Gall y rhain fynd â chi yn syth i Westy Holiday Inn Caerdydd.

26ain Medi - Gwesty Marine, Aberystwyth

Gwestai Arbennig: Gwyneth Glyn

Marine yw’r gwesty croesawus, cyfeillgar, ar rodfa fawreddog y môr yn Aberystwyth. Mae’n agos i ganol y dref, heb fod yn boddi dan y prysurdeb i gyd.

Rydym wedi adnewyddu’n hystafelloedd ni i’w gwneud yn arbennig o gyffyrddus, gyda’u hystafelloedd ymolchi’u hunain. Bydd modd gweld y môr o lawer ohonynt. Os ydych chi am ddod i adnabod y Canolbarth yn well, dyna’r lle i aros.

2ail Hydre’ - Galeri, Caernarfon

Gwestai Arbennig: Gwyneth Glyn a Brigyn

Ar un adeg, roedd sawl un o adeiladau’r dref yn mynd â’i ben iddo. Cafodd Galeri Caernarfon Cyf (gynt Cwmni Tref Caernarfon) ei sefydlu ym 1992 fel ymddiriedolaeth annibynnol ar gyfer datblygu’r dref. Aeth ati ar unwaith i adnewyddu a thrawsffurfio rhai o’r adeiladau oedd wedi dirywio waethaf. Erbyn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu a gwella dros ugain o adeiladau gwag oedd wedi dirywio yn y dref. Bellach, mae tenantiaid yn defnyddio’r adeiladau.

3ydd Hydre’ - Ty Tawe, Abertawe

Gwestai Arbennig: Brigyn

Bydd pob math o achlsyruon yn cael eu cynnal yn siop Ty Tawe. Bydd llawer o’r rhain yn digwydd ar ddyddiadau pwysig yng nghalendar y Cymry, megis Dydd Gwyl Ddewi, Dydd Dwynwen, Pag, a’r Nadolig.

Sut i gael hyd i'r fan.

Saif Ty Tawe yn Stryd Christina, heb fod ymhell o Ffordd y Brenin yng nghalon dinas Abertawe.

Y Wolfe Tones

Pen Band Baladwyr Iwerddon.
Angerdd, awydd, a chanu grymus! Mae’r anhygoel Wolfe Tones yn dathlu 45 o flynyddoedd gyda’i gilydd. Dyma’r criw sydd wedi swyno’r dorf ym mhedwar ban byd gyda;u caneuon a’u baledi grymus o Iwerddon.

27ain Hydre’ - Gwesty Woodlands - Edern Pwllheli.

Saif Gwesty’r Woodlands Hall mewn man diarffordd yn Edeyrn, ym mhellafoedd prydferth gwlad Llyn. Mae’r tir o gwmpas y Gwesty yn llawn o goed hyfryd ar eu prifiant. Lle gwych ar gyfer ymlacio!

Sut i gael hyd i'r fan.

Ewch i Forfa Nefyn, naill ai ar hyd ffordd y glannau (A499) o Gaernarfon, neu’r A497 o Bwllheli. Gyrrwch tua’r Gorllewin ar hyd y B4417 am ryw 1km, a chymrwch y tro cyntaf ar y chwith wrth ddod i mewn i bentref Edeyrn. Ar ôl mynd am 200 metr, cymerwch y tro cyntaf ar y chwith i mewn i Lôn Pwll Clai. 300 meter eto, ac mae’r lôn yn terfynu yng nghwrt blaen y Gwesty.

28ain Hydre' - Clwb Calsonic, Llanelli

Cafodd Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol y Calsonic Kansei ei adeiladu ym 1946. Clwb staff cwmni oedd hwn i ddechrau, ond erbyn mae wedi llwyddo i ddenu cefnogaeth gan bobl o sawl cefndir ac oedran. Erbyn hyn, mae’r aelodaeth wedi cyrraedd 1,420.

Gyda aelodaeth mor fawr ac amrywiol â hyn, mae’r Calsonic yn falch i gyflwyno adloniant o bob math i’r gynulleidfa.

“Byddwn ni’n gwrando’n ofalus ar sylwadau ein cwsmeriaid. Hebddyn nhw, ni fyddem ni wedi cyrraedd unman.”

Mae camera o flaen y llwyfan i daflunio’r perfformiad ar y sgriniau mawr ac ar y sgriniau monitor yn ystod y noson.

29ain Hydre’ - Gwesty Harry’s, Aberystwyth

Tref lan môr unigryw yw Aberystwyth, canolfan busnes a thwristiaeth y Canolbarth i gyd. Saif yng nghanol ardal eithriadol o brydferth, ac mae’n llawn atyniadau. Mae yma Brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol, Marina sy’n datblygu’n gyflym, Theatr enwog, sawl bar a thy bwyta, a rhodfa hir lle gallwch weld ar hyd a lled Fae Ceredigion.

Sut i gael hyd i'r fan.

Saif Gwesty Harry yn Rhodfa’r Gogledd, yng nghanol tref Aberwystwyth. Os ydych chi’n dilyn y system un ffordd, bydd y gwesty ar ochr chwith yr heol. Bydd rhagor o hwlp i’w gael drwy’r cyswyllt isod.

30ain Hydre’ - Galeri, Caernarfon

As an increasing number of the town's buildings became neglected, run-down and empty, Galeri Caernarfon Cyf (formerly known as Cwmni Tref Caernarfon) was set up as an independent Town Development Trust in 1992 and began by taking on the challenging task of transforming and refurbishing some of Caernarfon's biggest eyesores. To date, the Trust has renovated and refurbished over twenty neglected and vacant properties in the town, which are now occupied by tenants.

31ain Hydre’ - Swit y Mileniwm, Caerdydd

Ar un adeg, roedd sawl un o adeiladau’r dref yn mynd â’i ben iddo. Cafodd Galeri Caernarfon Cyf (gynt Cwmni Tref Caernarfon) ei sefydlu ym 1992 fel ymddiriedolaeth annibynnol ar gyfer datblygu’r dref. Aeth ati ar unwaith i adnewyddu a thrawsffurfio rhai o’r adeiladau oedd wedi dirywio waethaf. Erbyn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu a gwella dros ugain o adeiladau gwag oedd wedi dirywio yn y dref. Bellach, mae tenantiaid yn defnyddio’r adeiladau.

1af Tachwedd - The Luminaire, Kilburn, Llundain

Agorodd y Luminaire ei ddrysau ar Ddydd Gwyl Ddewi 2005. Roedd y sylfaenwyr wedi cael llond bol o’r ffordd roedd hyrwyddwyr a theatrau yn trin bandiau a’u cefnogwyr. Pam fod rhaid pigo ffrae bob gafael? Beth oedd yr angen i beirianwyr sain weiddi ar gerddorion oedd yn gofyn am y pethau symlaf? Os oedd y bobl hyn yn hoffi cerddoriaeth gymaint, pam oedden nhw mor gas tuag at y cerddorion. a’r bobl oedd yn dod i wrando?

“Rydym ni’n dal i fethu deall y dwli hyn – chewch chi ddim byd fel ‘na fan hyn.”

Sut i gael hyd i'r fan.

O LINELL Y JUBILEE (Kilburn)
Ewch tua’r dde i Kilburn High Road dan y tair pont reilffordd, heibio i’r North London Tavern, gorsaf reilffordd Brondesbury, a Chaffi Cookies & Cream. Pedwar drws eto, a dyna ni ar y dde. Pedair munud o gerdded.

O LINELL Y BAKERLOO (Kilburn Park)
Trowch i’r chwith allan o’r orsaf ac allan i Kilburn High Road. Cymerwch fws 16 neu 32 bus, neu cerddwch heibio i Nemo Coffee, WH Smith, McDonalds, Halifax Bank, neuadd fingo’r Mecca, heibio i’r Tricycle Theatre and Cinema. Rydym ni ar y chwith, chwech drws i fyny o’r fan honno. 12 munud o gerdded.

O ORSAF Y LONDON OVERGROUND, Brondesbury:
Trowch i’r dde o’r orsaf, a heibio i Cookies & Cream. Pedwar drws eto, a dyna ni ar y dde. 45 eiliad o gerdded.

GYRRU
Mae’n werth defnyddio system Route Planner Cymdeithas y Modurwyr. NW6 7JR yw ein côd post ni. Teipiwch hwnna i mewn, yna eich côd chi, a gwasgu ‘Go’. Cewch ddisgrifiad o’r llwybr i’w ddilyn – a bant â chi!

Ffordd arall yw neidio i dacsi, a dweud wrth y gyrrwr, “Hoffwn fynd i ‘r ganolfan gerddoriaeth fyw fwyaf dymunol yn Llundain, y Luminaire, 309 Kilburn High Road.”

8fed Tachwedd - Cabaret Voltaire, Caeredin

Mae Cabaret Voltaire yn gorwedd ymhlith yr ogofeydd canoloesol sy’n gorwedd o dan y Cowgate, ardal brysur yng nghanol prifddinas yr Alban. Mae pob math o gerddoriaeth ddawns yn cael croeso yno, o’r act anhygoel Ultragroove, i fersiwn Albanaidd Ultragroove, y clwb gwych o Leeds

Mae Cabaret Voltaire yn allweddol yn sîn gerddoriaeth fyw’r ddinas. Bydd tua 30 achlysur byw yn cael llwyfan yno bob mis. Mae’n rhoi cyfle i weld talentau gorau Caeredin, yr Alban, a’r gwledydd draw hefyd.

Latest News
Buy Tickets
Download Flyer
Download Flyer
SainWales.com