The smiling faces leaving the building or heading for the bar testified to a successful night, bring on more of the kind.Caernarton Herald
Fe heidiodd miloedd o selogion rygbi Cymru ac Iwerddon i’r CIA yng Nghaerdydd fis Mawrth diwetha i fwynhau diwrnod llawn o’r adloniant gorau erioed. Dyma’r sgrîn fwyaf yng Nghymru, a’r bar mwyaf erioed yn gwerthu cwrw bydenwog Felinfoel. Cafodd selogion rygbi wledd o ganu i’w mwynhau, yng nghwmni Bryn Terfel, Rhys Meirion, Cerys Matthews, y Wolfe Tones, a Dafydd Iwan.
Mae tymor newydd CeltFest yn cychwyn gyda thaith anhygoel ar hyd y wlad a thu hwnt!
Cafodd y Wolfe Tones lwyddiant ysgubol dair blynedd yn ôl, a hwythau’n canu yng Nghaerdydd. Does neb yn hafal i’r band hwn, sy’n tanio calonnau pobl Iwerddon â chaneuon gwladgarol ers blynyddoedd. Bellach, maen nhw’n dychwelyd gyda chyfres o nosweithiau unigol ym Mhwllheli, Llanelli, Caernarfon, a Chaerdydd yn y wlad hon, gyda phob a noson yr un yn Llundain a Chaeredin.
Mae’r Wolfe Tones yn enwog am roi llais i holl angerdd profiad pobl Iwerddon. Er bod rhywrai wedi ceisio anghofio’r cyfan. Mae’r Wolfe Tones wedi canu’r caneuon gwladgarol a’r baledi poblogaidd mawr. Yn ogystal â hyn maent wedi cyfansoddi’u caneuon gwefreiddiol eu hunain, yn dathlu dewrder yr arwyr a’r arwresau gynt, yn dwyn i gof gyson y rhai a aberthodd bopeth dros ryddid eu gwlad.
Dewch i glywed yr Wolfe Tones, ac fe gewch brofiad gwyllt a gwefreiddiol fydd yn llenwi’ch calon ag angerdd eu cân. Bellach, a’n gwlad ni yn troedio’r llwybr garw tua rhyddid, bydd brwydr faith a dewr pobl Iwerddon am ryddid ac urddas ymhlith cenhedloedd y byd yn ysbrydoliaeth.